Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 17 Ionawr 2018
Amser:
09.30 -
12.17
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4598
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Dai Lloyd AC (Cadeirydd) Dawn Bowden AC Jayne Bryant AC Angela Burns AC Rhun ap Iorwerth AC Caroline Jones AC Julie Morgan AC Lynne Neagle AC |
Tystion: |
Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Dr Jean White, Llywodraeth Cymru Liz Davies, Llywodraeth Cymru Andrew Evans, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Claire Morris (Clerc) Zoe Kelland (Dirprwy Glerc) Amy Clifton (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet a'i swyddogion.
3.1a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Cyllid ynghylch Ambiwlans Awyr Cymru a'r Gwasanaeth Adalw Meddygol Brys.
3.2a Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ynghylch cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19.
4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn ystod eitem 2 y cyfarfod.
5.2 Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol a ddaeth i'r amlwg yn ystod ei ymchwiliad i'r defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal cyn iddo baratoi ei adroddiad drafft.
6.1 Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft a chytunodd arno.
7.1 Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad ac ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad gyda rhanddeiliaid cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn.